Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn cymryd rhan mewn gwahanol brosesau gwneud penderfyniadau, ac mae miliynau yn rhagor yn gwneud hynny am y tro cyntaf, gan roi cyfle i’w llais gael ei glywed. Nid yw twyllwybodaeth a chamwybodaeth yn newydd i’r ddisgwrs ddemocrataidd, ond mae technoleg yn cyflwyno heriau newydd a chyfleoedd newydd i feithrin cyhoedd mwy gwybodus a gwydn. Dyna pam mae Ofcom, Shout Out UK, a’r Comisiwn Etholiadol yn cydweithio ar yr ymgyrch DIYSTYRU i arfogi pobl ifanc â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddiystyru twyllwybodaeth mewn tirwedd ddigidol sy’n newid yn gyson. Mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael â phynciau fel twyllwybodaeth, siambrau adlais a ffugiadau dwfn yn yr union fannau lle mae pobl ifanc yn debygol o brofi'r heriau hynny: ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.